Os gallwch, newidiwch i dariff ynni adnewyddadwy gan mai llosgi tanwyddau ffosil yw prif achos newid hinsawdd. Y ffordd orau o arbed ynni, ar wahân i leihau gwastraff, yw trwy goginio’n fwy effeithlon, ond cyn i ni i gyd ruthro allan a phrynu’r ffrïwr aer diweddaraf neu’r popty sy’n defnyddio ynni’n effeithlon iawn, mae ffyrdd symlach a mwy cost-effeithiol o wella effeithlonrwydd ynni eich cegin.
Gall bod yn fwy ymwybodol o brosesau coginio leihau faint o ynni a ddefnyddiwn yn sylweddol a lleihau ein biliau ynni ar yr un pryd.
1. Bwytewch fwyd amrwd
Mae cydbwysedd o fwyd amrwd a bwyd wedi’i goginio’n ffordd faethlon o fwyta, felly newidiwch elfen o’ch pryd wedi’i goginio am bryd amrwd neu salad. Cadwch unrhyw datws dros ben ar gyfer salad tatws oer a gellir troi unrhyw basta neu reis dros ben yn bryd ochr trwy ychwanegu cynhwysion tymhorol a pherlysiau eraill.
2. Defnyddiwch dop y stôf
Yn gyffredinol, y microdon yw’r ffordd fwyaf effeithlon o gynhesu a choginio bwyd ond nid bob amser y ffordd hawsaf na’r mwyaf ymarferol os ydych chi’n coginio gwahanol elfennau. Os felly, ffafriwch dop y stôf dros y popty a defnyddiwch y pot maint cywir gyda chaead. Gallwch hefyd droi lefel y cylch neu’r llosgwr i lawr unwaith iddynt gyrraedd y tymheredd cywir gan fod angen i’r rhan fwyaf o brydau fudferwi yn hytrach na berwi.
3. Defnyddiwch sosban bwysedd a phopty araf
Os yn bosibl, buddsoddwch mewn sosban bwysedd a phopty araf sy’n defnyddio llai o ynni. Yn ôl USwitch, dim ond ychydig mwy o ynni na bwlb golau traddodiadol mae poptai araf yn ei ddefnyddio, ac mae ganddyn nhw’r fantais o goginio’n araf trwy gydol y dydd tra eich bod chi yn y gwaith neu pan fydd angen i chi fwrw ymlaen â phethau eraill.
4. Coginiwch mewn swp
Coginiwch brydau mewn swp a’u storio yn yr oergell neu’r rhewgell. Gellir coginio prydau fel tsili yn hawdd, yn ogystal â chawliau tymhorol, sy’n eu gwneud yn ffordd wych o ddefnyddio’ch llysiau. A gallwch ddefnyddio’r microdon i’w cynhesu. Ceisiwch ddyblu a choginio swp bob tro y byddwch chi’n coginio i arbed amser ac arian.
5. Defnyddiwch eich popty’n ddoeth
Wrth ddefnyddio’r popty, gwnewch yn siŵr ei fod yn llawn a cheisiwch osgoi ei agor yn ddiangen. Bob tro y byddwch yn agor drws y popty, mae’n colli gwres ac mae angen mwy o ynni i ddod ag ef yn ôl i dymheredd. Yn yr un modd, ceisiwch gadw drws y popty’n lân fel y gallwch edrych i mewn, yn hytrach na gorfod ei agor i weld sut mae eich bwyd yn dod ymlaen.