- Amser paratoi 15mins
- Amser coginio 10mins
- Digon i wneud 15-18 (Gweinir 5+)

Bydd angen
- 225g o flawd codi
- Pinsied o halen
- llond llwy de o sbeisys cymysg
- 110g o fenyn, lard neu fargarîn
- 75g o siwgwr gwyn man
- 75g o gyrens a syltanas yn gymysg
- Ŵy mawr wedi’i guro
- Croen hanner lemwn (dewisol)
Cooking on a bakestone or griddle has been common practice throughout Wales for centuries. The art of a good Welsh cake is to cook them quickly on both sides so that they stay moist in the centre, but take care not to burn them!
Dull
- Rhidyllwch y blawd, yr halen a’r sbeisys i bowlen. Rhwbiwch y menyn neu’r margarîn i’r cynhwysion sych nes eu bod fel briwsion bara mân.
- Ychwanegwch y siwgwr, y croen lemwn a’r ffrwythau sych. Arllwyswch yr ŵy a chymysgu’r cyfan yn does.
- Ysgeintiwch dipyn o flawd ar fwrdd a rholio neu wasgu’r toes nes ei fod tua 5mm o drwch. Torrwch ef yn gylchoedd â thorrwr 4-5cm, neu gallwch ei dorri’n sgwariau (ni fydd raid i chi ei ail-rolio dro ar ôl tro os y gwnech hynny).
- Craswch y pice ar radell weddol boeth, gan eu troi unwaith, nes y byddant yn euraidd ar y ddwy ochr ond yn dal ychydig yn feddal yn y canol.
- Taenwch sigwr gwyn mân drostynt tra byddant yn dal yn boeth. Os nad oes gennych radell, gallwch ddefnyddio padell ffrio drom wedi’i hiro ag ychydig of fenyn.