Rosti Tatws a Chennin

  • Amser paratoi 30mins
  • Amser coginio 40-45 mins
  • Ar gyfer 4
Hyperfocal: 0

Bydd angen

  • 600g tatws gwyn
  • 1 Cennin Cymreig (PGI), wedi’i thocio
  • 5-6 llwy fwrdd o olew had rêp
  • 1 wy, wedi’i guro
  • 1 llwy fwrdd o flawd plaen
  • 1 pinsiad mawr o Halen Môn (PDO)

Mwynhewch flasau cysurus y pryd Cymreig traddodiadol hwn, sef Tatws a Chennin Rosti. Wedi’u gwneud â Chennin Cymreig (PGI), ac wedi’u blasu â Halen Môn (PDO), mae’r rosti’s creisionllyd yn berffaith ar gyfer brecwast Cymreig swmpus, neu fel saig bach sawrus.

Dull

  1. Gadewch y tatws yn gyfan a’u berwi am 5 munud. Yn y cyfamser, sleisiwch y genhinen yn denau, a’i golchi i gael gwared ar unrhyw raean. Cynheswch 1 llwy fwrdd o’r olew had rêp mewn padell ffrio fawr, ychwanegwch y genhinen wedi’i draenio a’i choginio am 2-3 munud i’w meddalu. Rhowch y cyfan i mewn i bowlen fawr.
  2. Draeniwch y tatws, eu rinsio mewn dŵr oer a’u draenio eto. Gratiwch nhw’n fras i mewn i’r bowlen. Ychwanegwch y blawd a’i gymysgu gyda’r cennin. Ychwanegwch yr wy, sesnwch gyda Halen Môn a phupur a chymysgu’r cyfan yn dda.
  3. Ail-gynheswch y badell ffrio, ychwanegwch 3 llwy fwrdd o’r olew had rêp yna gollyngwch lond llwyau bwrdd o’r cymysgedd tatws i’r badell, gan eu fflatio i greu cylchoedd gwastad.
  4. Coginiwch nhw dros wres cymedrol am 4-5 munud nes bod yr ochr isaf yn frown euraid dwfn. Trowch y rosti yn ofalus a’u coginio eto nes eu bod wedi brownio. Codwch nhw allan o’r badell a’u cadw’n gynnes tra’n coginio gweddill y cymysgedd, gan ychwanegu mwy o olew yn ôl yr angen. Gweinwch nhw’n boeth fel rhan o’ch Brecwast Cymreig.
Food Drink Wales logo

Trosolwg Preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis fel y gallwn roi'r profiad defnyddiwr gorau posibl i chi. Mae gwybodaeth cwcis yn cael ei storio yn eich porwr ac mae’n cyflawni swyddogaethau fel eich adnabod pan fyddwch yn dychwelyd i’n gwefan a helpu ein tîm i ddeall pa adrannau o’r wefan sydd fwyaf diddorol a defnyddiol i chi.