- Amser paratoi 30mun
- Amser coginio 40 - 45 mun
- Ar gyfer 4

Bydd angen
Ar gyfer y crwst:
- 200g blawd plaen, a mwy i ysgeintio
- 100g menyn hallt oer, wedi’i dorri’n giwbiau
- 1 melynwy, wedi’i guro
- 4 llwy fwrdd dŵr oer iawn
Ar gyfer y llenwad:
- 25g menyn
- 1 genhinen ganolig, wedi ei golchi a’i sleisio’n denau
- 125g caws gafr meddal
- 300ml hufen sengl
- 2 wy canolig, wedi’u curo
- Pupur du ffres
- Halen Môn (PDO)
Mae cennin a chaws gafr yn gyfuniad perffaith. Wedi’u pobi gyda’i gilydd gyda hufen ac wyau mewn crwst menynaidd cyfoethog, gallan nhw wneud dechreufwyd neu ginio ysgafn gwych. Gweinwch nhw gyda dail salad cymysg gyda dresin o olew olewydd a sudd lemon.
Dull
- Cynheswch y ffwrn i 200ºC / 180ºC ffan / Nwy 6.
- Gwnewch y crwst drwy gymysgu’r blawd a’r menyn mewn prosesydd bwyd nes ei fod yn debyg i friwsion bara mân.
- Ychwanegwch y melynwy a’r dŵr oer yn gynnil. Cymysgwch eto nes bod y toes yn dechrau cyfuno. Efallai na fydd angen yr holl ddŵr arnoch chi. Tynnwch y crwst allan, creu pêl allan ohono, ei lapio mewn ffilm cling a’i oeri am 30 munud.
- Tynnwch y crwst allan o’r oergell. Rholiwch allan yn denau a’i ddefnyddio i leinio 4 tun tarten 10cm rhychiog â gwaelod llac. Leiniwch gyda phapur pobi gwrthlud a’u llenwi â ffa pobi.
- Pobwch am 10 munud. Tynnwch y ffa pobi a’r papur allan a’u pobi am 5 munud arall.
- Trowch dymheredd y ffwrn i lawr i 180ºC / 160ºC ffan / Nwy 4.
- Toddwch y menyn mewn padell ffrio a choginio’r genhinen yn ysgafn nes ei bod yn feddal. Sesnwch gyda halen a phupur du.
- Rhannwch y cennin a’r caws gafr i’r 4 casyn tartled.
- Curwch yr hufen a’r wyau gyda’i gilydd, ei sesno a’i arllwys i’r casys tartled.
- Pobwch am 20-25 munud nes eu bod wedi caledu ac yn euraid. Trosglwyddwch nhw i hambwrdd wifren a’u hoeri. Gweinwch nhw ar dymheredd ystafell.