Cacen pwdin bara siarp

  • Amser paratoi 45 mun
  • Amser coginio 1 awr 30 mun
  • Ar gyfer 5+
Leftover zesty bread pudding

Bydd angen

  • 500g bara cyflawn neu surdoes
  • 500g cymysgedd o lugaeron a chyrens neu ffrwythau cymysg
  • 85g croen candi
  • 600ml llaeth
  • 2 wy mawr, wedi’u curo
  • 150g siwgr muscovado golau
  • 2 lwy fwrdd sbeis cymysg
  • 100g cnau cyll wedi’u tostio a’u torri
  • Croen 1 oren
  • 50g menyn wedi’i doddi
  • 2 lwy fwrdd siwgr demerara

Yn gwneud 24 sleisen


Dull

  1. Torrwch y bara yn ddarnau maint tebyg a’i roi mewn powlen gymysgu fawr, ac yna ychwanegwch y ffrwythau, y croen a’r sbeis.
  2. Arllwyswch y llaeth drosto a’i droi â’ch dwylo, gan falu’r bara rhwng eich bysedd i’w dorri.
  3. Cymysgwch y croen i’r wyau a’i arllwys dros y bara a’r ffrwythau, yna cymysgwch y siwgr a’r cnau i mewn. Gadewch i socian am 20-30 munud.
  4. Cynheswch y popty i 180˚C / 160˚C ffan / Nwy 4 ac arllwyswch y cymysgedd i ddysgl neu dun popty 30cm x 20cm wedi’i iro.
  5. Arllwyswch y menyn wedi toddi drosto a gwasgarwch y siwgr demerara dros yr wyneb.
  6. Pobwch am 1 ½ awr nes ei fod yn euraidd ac wedi coginio drwyddo.