- Tynnwch y dail oddi ar goesynnau’r blodfresych a thorrwch y coesynnau yn ddarnau 2cm bras. Stemiwch neu berwch nhw mewn dŵr berw am 2 funud nes bod y dail wedi gwywo a’r coesynnau’n dal i fod ychydig yn grensiog. Draeniwch ac arllwyswch i ddysgl popty.
- Yn y cyfamser, gwnewch y saws caws trwy doddi’r menyn dros wres canolig, yna trowch y blawd i mewn a’i goginio am 1 munud cyn ychwanegu’r llaeth yn raddol, gan ei droi drwy’r amser.
- Dewch ag ef i’r berw, yna gostyngwch y gwres a mudferwch am 2 funud nes ei fod wedi tewhau.
- Cymysgwch y mwstard i mewn a sesno’r cyfan gyda halen a phupur ac yn olaf ychwanegwch hanner y caws a chymysgwch yn dda.
- Arllwyswch y saws dros y dail ac ysgeintiwch y caws a’r briwsion bara sy’n weddill drosto.
- Rhowch o dan gril wedi’i gynhesu ymlaen llaw am 5 munud nes bod y caws wedi toddi a’r briwsion bara’n euraidd.
Gratin caws dail blodfresych
- Amser paratoi 30 mun
- Amser coginio 10 mun
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- Dail 1-2 blodfresychen
- 40g menyn
- 40g blawd plaen
- 400ml llaeth
- 1 llwy de mwstard
- 100g caws cheddar aeddfed, wedi’i gratio
- 30g briwsion bara