- Cynheswch y popty i 180˚C / 160˚C ffan / Nwy 4 a leiniwch hambwrdd pobi gyda phapur pobi.
- Rhowch y bara ar y papur mewn un haen a’i bobi am 10-15 munud, gan droi hanner ffordd drwodd. Dylai’r bara fod yn grimp ond nid yn frown.
- Tynnwch allan o’r popty, ei roi mewn prosesydd bwyd neu gymysgydd, a’i gymysgu i ffurfio briwsion bara mân.
- Storiwch mewn cynhwysydd aerglos neu ei rewi.
Blasau
Cnau sbeislyd – rhowch y briwsion bara mewn powlen ac ychwanegu 75g o siwgr demerara, 3 llwy de o sinamon a 150g o gnau wedi’u tostio. Cymysgwch yn dda a’i ddefnyddio ar ben hufen iâ neu ffrwythau wedi’u coginio.
Lemon a pherlysiau – rhowch y briwsion bara mewn powlen ac ychwanegwch groen 1 lemon a 2 lwy fwrdd o bersli ffres wedi’i dorri. Cymysgwch yn dda a’i ddefnyddio i orchuddio ffiledi pysgod, brestiau cyw iâr neu fel sylfaen ar gyfer stwffin.