Pryd tro-ffrio betys, garlleg a tsili

  • Amser paratoi 5 mun
  • Amser coginio 5 mun
  • Ar gyfer 2
Beetroot leaves with garlic and chilli

Bydd angen

  • 1 llwy fwrdd olew had rêp
  • 1 tsili coch, wedi’i sleisio
  • 2 ewin garlleg, wedi’u sleisio’n denau
  • 1 clwstwr dail betys, wedi’u golchi a’u torri’n fras

Digon i 2 fel pryd ochr


Dull

  1. Cynheswch yr olew mewn padell ffrio dros wres canolig-uchel a choginiwch y tsili a’r garlleg am 1 munud, gan wneud yn siŵr nad ydynt yn llosgi. Yna ychwanegwch y dail betys ac 1 llwy fwrdd o ddŵr.
  2. Ffriwch am rai munudau nes bod y dail wedi gwywo.
  3. Ychwanegwch halen môr a phupur.